Friday 11 January 2019

Phase Three- Implementation of the regulation and Inspection Of Social Care Act 2016

On 7 January 2019 the Deputy Minister for Health and Social Services, Julie Morgan AM, issued a written statement on phase 3 of Implementation of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.
 
 
The statement contains links to the laid documents page of the National Assembly for Wales website, from which The Adult Placement Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2019; The Regulated Advocacy Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2019 and The Regulated Fostering Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2019, to be debated in Plenary on 22 January, can be accessed, along with their explanatory memoranda. 
 
 
The Local Authority Fostering Services (Wales) Regulations 2018 and their explanatory memorandum were also laid before the National Assembly during the week commencing 10 December.
 
The statement also contains links to the Welsh Government website, where you can find consultation summary reports for each of the consultations undertaken over the summer of 2018 and draft statutory guidance/code of practice, revised following consultation.
 
For further information, please contact RISCAct2016@gov.wales
 
Social Services and Integration Directorate
Welsh Government

Ar 7 Ionawr 2019, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, ddatganiad ysgrifenedig ar gam 3 y broses o Weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
 
 
Mae’r datganiad yn cynnwys dolenni at y dudalen ‘dogfennau a osodwyd’ ar wefan Cynulliad Cenedlaethol ac yno gellir gweld yr offerynnau statudol isod a’r memoranda esboniadol cysylltiedig, a fydd yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr: Rheoliadau Lleoliadau Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol (Cymru) 2019Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol (Cymru) 2019 a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol (Cymru) 2019.
 
Yn ogystal, cafodd Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 a’r memorandwm esboniadol cysylltiedig eu gosod gerbron y Cynulliad yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 10 Rhagfyr.
 
Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys dolenni at wefan Llywodraeth Cymru, lle gwelwch grynodebau o’r ymatebion i bob un o’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd yn ystod haf 2018, ynghyd â’r canllawiau/cod ymarfer statudol drafft a gafodd eu diwygio yn dilyn y broses ymgynghori.
 
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â RISCAct2016@llyw.cymru
 
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru

No comments:

Post a Comment