Tuesday 12 March 2019

Ehangu ar ap Cymraeg arloesol Prifysgol Abertawe ar gyfer y sector iechyd a gofa


Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe wedi lansio diweddariad ar ei ap Gofalu Trwy’r Gymraeg. Mae’r ap, sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith, wedi bod mor llwyddiannus nes bod fersiwn newydd, llawnach wedi’i greu, diolch i nawdd pellach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lansiwyd y teclyn dysgu arloesol yn 2011, ac ers hynny mae’r ap, a ddatblygwyd gan gwmni Galactig, wedi cael ei lawrlwytho dros 10,000 o weithiau. Mae’r ap ar gael i bawb yn rhad ac am ddim oddi ar App Store a Google Play.

Gwobrwywyd arloesedd yr ap yng ngwobrau ‘Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol’ Llywodraeth Cymru yn 2014.

Roedd y fersiwn wreiddiol o Gofalu Trwy’r Gymraeg yn cynnwys geiriau, termau ac ymadroddion defnyddiol ym maes iechyd a gofal, er mwyn cynorthwyo a galluogi unigolion sy’n gweithio yn y maes i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chleifion, a thrwy hynny sicrhau bod modd i’r cleifion hynny drafod eu hanhwylderau trwy gyfrwng eu mamiaith.

Erbyn hyn, mae’r ap wedi’i ehangu’n sylweddol yn ôl Lynsey Thomas o Academi Hywel Teifi sydd wedi arwain ar y gwaith o ddatblygu’r ap:

“Mae’r diweddariad hwn yn gyfle i sicrhau profiadau dysgu gwell i’r defnyddwyr. Adeiladwyd yr ap gwreiddiol bron i bum mlynedd yn ôl, felly mae hwn yn gyfle i ni adnewyddu’r ap â gwedd gyfoes a modern.

“Mae adrannau ychwanegol o derminoleg ac ymadroddion sy’n benodol ar gyfer meddygon, ymwelwyr iechyd, gweithwyr gofal a ffisiotherapyddion wedi’u creu, gyda’r ynganiadau’n cael eu llefaru unwaith eto gan Nia Parry, y tiwtor iaith a’r gyflwynwraig deledu, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe.

“Ymhlith y datblygiadau newydd eraill mae cyfarwyddyd i weithwyr ar gynnal sgyrsiau anffurfiol ar bynciau fel y tywydd, er mwyn tawelu meddyliau eu cleifion. Hefyd, mae gallu gan yr ap i anfon hysbysiadau ymwthiol i ffonau defnyddwyr, er enghraifft Ymadrodd y Dydd, a’r gobaith yw bydd hyn yn procio ac yn annog defnyddwyr i ddal ati i ddefnyddio’r ap a’u Cymraeg”.

Meddai Dr Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:  “Mae’r Coleg yn falch iawn o gefnogi adnodd sydd wedi profi i fod mor werthfawr a phoblogaidd ymysg gweithwyr iechyd a gofal yma yng Nghymru.

“Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn astudio rhan o’u cyrsiau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, ond mae angen gwneud mwy i ddenu myfyrwyr i’r maes iechyd a hyderaf y bydd yr ap yma yn un adnodd a allai fod o fudd mawr iddynt wrth hyfforddi”.

“Mae’r budd y mae myfyrwyr a staff wedi ei gael o’r ap dros y blynyddoedd yn destun balchder i Academi Hywel Teifi, ac rwy’n ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am gyd-fuddsoddi ymhellach ynddo,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

No comments:

Post a Comment