Thursday 18 April 2019

All in this Together / Pawb gydai'i gilydd



Thursday 6th June 2019 / Dydd Iau 6ed Mehefin 2019, Canolfan Catrin Finch Wrecsam

An annual conference organised by the Co-production Network for Wales Doors open at 9am for registration, refreshments and networking.

There is ever-growing evidence that when citizens and professionals work in partnership services are improved and better meet people’s needs. In the current landscape of dwindling resources and increasing demand, co-production and involvement offer a compelling approach to bringing positive, sustainable change to public services and communities. The legislative context in Wales is increasingly directing organisations towards this way of working, particularly through the Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014 and the Wellbeing of Future Generations (Wales) Act 2015.
You are warmly invited to join us for our annual conference, the key event for the co-production and involvement community in Wales. It is an opportunity to:
  • Connect with leading policy and decision makers, professionals and researchers.
  • Share in good practice approaches being applied in Wales and further afield.
  • Gain clear, practical advice on how to implement co-production and involvement approaches and make them work.
  • Contribute to Wales' growing reputation as a flag bearer for co-production and involvement on the international stage.
The day will include an inspirational keynote grounded in the everyday reality of public services; lightning talks from a diverse range of speakers sharing their practice and learning; the opportunity to explore their topics in depth during workshop sessions; space to build connections, advance research into the effectiveness of co-production, and share your stories, experience and learning with fellow attendees; a showcase of the Wales network itself: past, present and future; alongside time to network and visit our sponsors’ stands.
This year we will welcome:
  • Mair Rigby (Wales Council for Voluntary Action) on Inspiring Impact and demonstrating the difference you make;
  • Mike Corcoran (for the Co-production Network for Wales) on Measuring What Matters and asking the right questions, of the right people, in the right way;
  • Morwenna Fodden (Co:Create Sheffield) on the trials and tribulations of co-producing health and social care commissioning - also (breaking news) the inception of the England Co-production Network!
  • Huw Davies (Age Cymru and Golden Thread Advocacy Programme) on co-producing an advocacy framework and range of services;  
  • Rae Baker (Natural Resources Wales) on making co-production business as usual in a piece of work building ecosystem resilience;
  • Kate Hamilton (Renew Wales) on creating co-production and involvement when you begin with engaged citizens and community-led initiatives.
This will be an opportunity to explore areas of relevance to you around co-production and involvement, and connect with other people from a wide range of sectors and backgrounds who are collectively striving towards a common vision: that of a fairer and more sustainable Wales where everyone had a voice.
To book your place please follow the link below

Pawb gyda’i gilydd: Dathlu Cydgynhyrchu yng Nghymru. Cynhadledd flynyddol a drefnwyd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Drysau yn agor am 9yb ar gyfer cofnodi, lluniaeth a rhwydweithio
Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos pan fydd dinasyddion a gweithwyr proffesiynol yn cydweithio fel partneriaid, mae gwasanaethau’n well ac yn diwallu anghenion pobl yn well hefyd.  Yn yr hinsawdd bresennol lle mae adnoddau’n lleihau ac mae’r galw’n cynyddu, mae cydgynhyrchu a chyfranogiad yn cynnig dull o weithio grymus er mwyn sicrhau newid cadarnhaol a chynaliadwy i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau.  Mae cyd-destun deddfwriaethol Cymru’n dueddol o lywio sefydliadau fwyfwy tuag at y ffordd hon o weithio, yn enwedig trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Estynnir gwahoddiad cynnes ichi ymuno â ni ar gyfer ein cynhadledd flynyddol, prif ddigwyddiad y gymuned cydgynhrychu a chyfranogiad trwy Gymru. Bydd yn gyfle i:
  • Gysylltu ag unigolion blaenllaw sy’n llunio polisi ac yn gwneud penderfyniadau, gweithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr.
  • Rhannu arfer dda a ddefnyddir yng Nghymru a thu hwnt.
  • Rhannu cyngor clir ac ymarferol ar sut i weithredu dulliau gwaith cydgynhyrchu a chyfranogiad a sicrhau eu bod yn llwyddo.
  • Cyfrannu at enw da Cymru fel gwlad flaenllaw ym maes cydgynhyrchu a chyfranogiad ar y llwyfan rhyngwladol.
Bydd y diwrnod yn cynnwys prif siaradwr i’ch ysbrydoli sy’n brofiadol o ran realiti gwasanaethau cyhoeddus; cyflwyniadau cyflym gan amrediad eang o siaradwyr fydd yn rhannu arferion a phrofiadau; cyfle i ddarganfod mwy am eu pynciau yn ystod sesiynau gweithdy; cyfle i greu cysylltiadau, datblygu ymchwil ar effeithiolrwydd cydgynhyrchu a rhannu eich straeon, profiadau a dysg gyda phobl eraill sy’n bresennol; arddangosfa ar Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru: y gorffennol, y presennol a’r dyfodol; ochr yn ochr ag amser i rwydweithio ac ymweld â stondinau ein noddwyr.
Eleni byddwn yn estyn croeso i:
  • Mair Rigby (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) ar destun Ysbrydoli Effaith a dangos y gwahaniaeth rydych yn ei wneud;
  • Mike Corcoran (Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru) ar Fesur beth sy’n Bwysig  a gofyn y cwestiynau iawn, gan y bobl iawn, yn y ffordd iawn;
  • Morwenna Fodden (Co:Create Sheffield) ar hynt a helynt cydgynhyrchu comisiynu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol - yn ogystal â (newyddion sy’n torri) sefydlu Rhwydwaith Cydgynhyrchu Lloegr!
  • Huw Davies (Age Cymru a Rhaglen Eiriolaeth Llinyn Aur) ar gydgynhyrchu fframwaith eiriolaeth ac amrediad o wasanaethau;  
  • Rae Baker (Cyfoeth Naturiol Cymru) ar wneud cydgynhyrchu’n gyfrwng arferol mewn darn o waith ar adeiladu cydnerthedd mewn ecosystemau;
  • Kate Hamilton (Adfywio Cymru) ar greu cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy gychwyn gyda dinasyddion ymgysylltiedig a mentrau dan arweiniad y gymuned.
Bydd yn gyfle i ystyried meysydd sy’n berthnasol i chi o ran cydgynhyrchu a chyfranogiad, ac i greu cysylltiadau gyda phobl eraill o amrediad eang o sectorau a chefndiroedd, sydd ar y cyd, yn ymdrechu tuag at weledigaeth gyffredin: sef Cymru decach,fwy cynaliadwy lle mae gan bawb ei 
i arbed tocynnau dilynwch y linc isod
Arbed Tocynnau

No comments:

Post a Comment