Thursday 4 April 2019

HSS Brexit Comms

Please see important messages below regarding Brexit workforce planning.


Dear Colleague,
We are writing jointly to all members of staff working in health and social care services in
Wales to update you on the ongoing preparations for the possible UK exit from the
European Union.

As you will no doubt have heard, the European Council has agreed to extend Article 50. If
the UK Parliament is unable to agree a deal, we will leave the EU without a deal on 12 April.
If Parliament agrees a deal before 12 April, the European Council has agreed to extend our
leave date until 22 May to get the necessary legislation passed. You’ll be aware that the UK
Parliament are discussing other ways forward.

We have been clear from the outset that a no deal Brexit would be catastrophic for health
and social care services in Wales. Whilst leaving the EU with a deal remains the stated
priority of the UK Government, the prospect of a disorderly ‘no deal’ Brexit is still a very real
and worrying possibility. So we at the Welsh Government continue to plan for every
eventuality, and particularly to ensure we protect and safeguard the quality of our public
services in the event of a no deal scenario.

Contingency planning
Firstly we would like to say that we wholeheartedly appreciate the effort which is taking
place within your organisations and across Wales to prepare for a possible no deal
situation.
We are confident there are clear and strong plans in place to make sure services are
protected, as far as possible, from any disruption. This work has included detailed
preparations for any disruption to medicines, medical devices and clinical consumables,
non-clinical goods and services, vaccines, blood and organs, clinical trials, tissues and cells,
food, laundry, and fuel.
These are uncertain times, but our message to you is please continue as you are and
operate in your usual way. There may need to be some alternative planning or working
arrangements in the next few months, but there are well tested contingency plans for this.
We know that your focus is on maintaining safe, high-quality health and social care for the
people you care for. We urge you and your colleagues to remain vigilant in your advice to
them particularly with regards over-ordering or over-prescribing medicines. Local stockpiling
is unnecessary and could cause shortages which would put those that need medicines at
risk. We appreciate your continued support with reassuring those you care for about this.

The rights of EU health and social care staff and the Settled Status Scheme
We recognise and value the significant contributions that EU nationals provide in delivering
health and social care services. If you are an EU national, we want you to stay and you will
always be welcome to live and work in Wales. We will continue to work closely with the
Home Office to ensure you are aware of your rights.
We would strongly encourage all EU citizens working in the sector and living in Wales to
apply for the Settled Status Scheme which opens on 30 March 2019. This is available either

on a ‘settled status’ basis for those who have been in the UK for five years, or on a ‘pre-
settled status’ basis for those who have lived in the UK for fewer than five years.

We want to ensure that every EU citizen has the information and support they need to apply
to the Scheme. You can access direct information via these Home Office quick links below:
  •  EU Settlement Scheme guidance
  • Access assisted digital support
  •  ID document scanner locations
  •  Sign up to receive EU Citizen Email Alerts from the Home Office
  • Sign up to receive the Community Bulletin
  • European Temporary Leave to Remain Guidance

Recognition of professional qualifications
We recognise the importance of maintaining mutual recognition of professional
qualifications (MRPQ) for the health and social care workforce. This will continue to support
the movement of health and social care professionals across Europe.

The UK Government and Welsh Government have put in place legislation that means
European qualifications will continue to be recognised by all professional regulators
covering the health and social care sectors. This includes the General Medical Council,
Nursing and Midwifery Council, General Pharmaceutical Council, General Dental Council,
Health and Care Professions Council and Social Care Wales.

For healthcare and social care staff, this means that EU nationals who are currently
practising in the UK can continue to do so and that professionals qualified in the EU can
continue to be registered after exit day even if we leave without a deal. Further details are
available from your relevant professional body.

Whatever your nationality, we want to thank all of you for your continued contribution to the
safe and high quality delivery of health and social care services in your communities.
Yours sincerely,

Vaughan Gething AC/AM
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Minister for Health and Social Services

Julie Morgan AC/AM
Y Dirproy Gweinidog Iechyd

Annwyl Gyfaill,
Rydym yn ysgrifennu ar y cyd at holl aelodau staff y gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y paratoadau sydd ar y
gweill i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Fel y byddwch wedi clywed, mae’n debyg, mae’r Cyngor Ewropeaidd wedi cytuno i ymestyn
Erthygl 50. Os na all Senedd y DU ddod i gytundeb, byddwn yn ymadael â’r UE heb
gytundeb ar 12 Ebrill. Os bydd Senedd y DU yn dod i gytundeb cyn 12 Ebrill, mae’r Cyngor
Ewropeaidd wedi cytuno i ymestyn ein dyddiad ymadael tan 22 Mai er mwyn pasio unrhyw
ddeddfwriaeth angenrheidiol.
Rydym wedi nodi’n glir o’r dechrau y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i
wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Er bod ymadael â’r UE gyda
chytundeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, mae’n fater gofid bod y
posibilrwydd o gael Brexit anhrefnus, heb gytundeb yn parhau. Felly, rydym ni yn
Llywodraeth Cymru yn parhau i gynllunio ar gyfer pob digwyddiad posibl, ac yn benodol i
sicrhau ein bod yn diogelu ac amddiffyn safonau ein gwasanaethau cyhoeddus os byddwn
yn ymadael â’r UE heb gytundeb.
Cynlluniau wrth gefn
I ddechrau, hoffem ddweud ein bod wir yn gwerthfawrogi’r holl ymdrechion yn eich
sefydliadau ac ym mhob rhan o Gymru i baratoi ar gyfer sefyllfa bosibl heb gytundeb.
Rydym yn hyderus bod cynlluniau clir a chadarn wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod
gwasanaethau yn cael eu diogelu, cyn belled ag y bo modd, rhag unrhyw darfu. Mae’r
gwaith hwn wedi cynnwys paratoadau manwl ar gyfer unrhyw amhariad ar feddyginiaethau,
dyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol, nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn rhai
clinigol, brechlynnau, gwaed ac organau, treialon clinigol, meinweoedd a chelloedd, bwyd,
gwaith golchi, a thanwydd.
Mae hwn yn gyfnod ansicr, ond ein neges i chi yw y dylech barhau fel yr ydych, a
gweithredu yn y modd arferol. Efallai y bydd angen gweithredu cynlluniau neu drefniadau
gwaith eraill yn y misoedd nesaf, ond mae cynlluniau profedig wrth gefn ar gyfer hyn.
Gwyddwn mai’r hyn yr ydych chi’n canolbwyntio arno yw sicrhau iechyd a gofal
cymdeithasol diogel o safon uchel i’r bobl hynny yr ydych yn eu cefnogi, ac felly rydym yn
eich annog chi a’ch cydweithwyr i fod yn ofalus o ran eich cyngor iddynt, yn enwedig o ran
gorarchebu meddyginiaeth neu roi presgripsiynau am ormod o feddyginiaeth. Nid oes
angen pentyrru cyflenwadau yn lleol. Gall hyn achosi prinder a fydd wedyn yn peryglu’r rhai

hynny sydd angen y feddyginiaeth. Rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth parhaus i dawelu
meddwl y bobl yr ydych yn gofalu amdanynt ynglŷn â hyn.
Hawliau staff iechyd a gofal cymdeithasol o’r UE a’r Cynllun Preswylydd Sefydlog
Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pwysig gwladolion yr UE wrth ddarparu
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd croeso bob amser i chi fyw a gweithio yng
Nghymru. Os ydych yn wladolion o’r UE, rydym eisiau i chi aros a chael dyfodol diogel yma
yng Nghymru a byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda’r Swyddfa Gartref i sicrhau eich
bod yn gwybod eich hawliau.
Rydym yn annog yr holl ddinasyddion o’r UE sy’n gweithio yn y sector ac yn byw yng
Nghymru i wneud cais i’r cynllun Preswylydd Sefydlog sy’n agor ar 30 Mawrth 2019. Mae
hwn ar gael ar sail ‘preswylydd sefydlog’ ar gyfer pobl sydd wedi bod yn y DU am bum
mlynedd, neu ‘statws preswylydd cyn-sefydlog’ ar gyfer pobl sydd wedi byw yn y DU am hyd
at bum mlynedd.
Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gan bob dinesydd o’r UE yr wybodaeth a’r cymorth
angenrheidiol i wneud cais dan y Cynllun. Gallwch weld gwybodaeth yn uniongyrchol drwy
ddilyn y dolenni cyswllt cyflym hyn gan y Swyddfa Gartref:
  •  EU Settlement Scheme guidance
  •  Access assisted digital support
  •  ID document scanner locations
  •  Sign up to receive EU Citizen Email Alerts from the Home Office
  •  Sign up to receive the Community Bulletin
  •  European Temporary Leave to Remain Guidance

Adnabod cymwysterau proffesiynol
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cydnabyddiaeth gydfuddiannol o gymwysterau
proffesiynol (MRPQ) ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn parhau i
gefnogi symudiad gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o Ewrop.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi sefydlu deddfwriaeth sy’n golygu y bydd
yr holl reoleiddwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i adnabod
cymwysterau Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor
Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Gofal Cymdeithasol Cymru.
I staff gofal iechyd neu ofal cymdeithasol, mae hyn yn golygu y gall gwladolion o’r UE sy’n
gweithio yn y DU ar hyn o bryd barhau i wneud hynny. Mae’n golygu hefyd y bydd
cofrestriad gweithwyr proffesiynol sydd wedi cymhwyso yn yr UE yn parhau ar ôl y diwrnod
ymadael, hyd yn oed os byddwn yn ymadael heb gytundeb. Gallwch gael manylion pellach
gan eich corff proffesiynol perthnasol.
Beth bynnag yw eich cenedligrwydd, hoffem ddiolch i bob un ohonoch am eich cyfraniad
parhaus i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol diogel o ansawdd uchel yn
eich cymunedau.

Yn gywir,

Vaughan Gething AC/AM
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Minister for Health and Social Services

Julie Morgan AC/AM
Y Dirproy Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Deputy Minister for Health and Social Services


No comments:

Post a Comment