In Wales and across the UK, a substantial shortage of accessible homes leads to many disabled people experiencing unacceptable living conditions, without choice or control over their lives. Suitable and accessible housing is essential to ensuring that disabled people are able to fulfil their basic human right to live independently.
This influential seminar will explore the challenges and solutions aimed at alleviating the shortage of accessible housing in Wales. It will highlight the latest developments in accessible housing policy and practice.
Featuring the Wales launch of EHRC Inquiry into the Housing for Disabled People Report, it promises to deliver plenty of challenge, debate as well as good practice solutions.
Attendees will hear from public, private and third sector leaders and experts exploring accessible housing allocation, adaptations, housing standards, development and tenant involvement, including:
Ruth Coombs - Head of Wales, EHRC
Representatives from Welsh Government
Caroline Lewis - Director, Access Design Solutions
Rhian Stangroom-Teel - Policy and Public Affairs Manager, Leonard Cheshire Disability
Miranda Evans - Policy and Programmes Manager, Disability Wales
Robin Alldred - Adaptations Manager, Wales and West Housing
Sadie Cooper - Senior Occupational Therapist, Caerphilly Council
Maggie Kirby - Tenant, Ateb Group
Join them to learn, share and contribute to developing a vision for accessible housing in Wales.
Book now
* * *
Tai Hygyrch ar gyfer y Dyfodol
Gallwch weld y rhaglen yma
Yng Nghymru ac ym mhob rhan o’r DU, mae prinder sylweddol o dai hygyrch yn arwain at amodau byw annerbyniol i nifer o bobl anabl, heb ddewis na rheolaeth dros eu bywydau. Mae tai addas a hygyrch yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn gallu gwireddu eu hawl dynol sylfaenol i fyw bywyd annibynnol.
Bydd y seminar dylanwadol hwn yn trafod yr heriau a’r atebion sydd yn anelu at liniaru’r prinder tai hygyrch yng Nghymru. Bydd yn tynnu sylw at y datblygiadau diweddaraf mewn polisi ac arfer ym maes tai hygyrch.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys lansiad Adroddiad EHRC Cymru ar yr Ymchwiliad i Dai ar Gyfer Pobl Anabl, ac mae’r diwrnod yn addo bod yn un llawn heriau, dadleuon defnyddiol a syniadau ar gyfer arfer da.
Bydd siaradwyr yn cynnwys arbenigwyr ac arweinwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a byddant yn trafod dyraniad tai hygyrch, addasiadau, safonau tai, datblygiad a chyfranogiad tenantiaid. Ymysg y siaradwyr, bydd:
Ruth Coombs – Pennaeth Cymru, EHRC
Cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru
Caroline Lewis – Cyfarwyddwr, Access Design Solutions
Rhian Stangroom-Teel – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Leonard Cheshire Disability
Miranda Evans – Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru
Robin Alldred – Rheolwr Addasiadau, Tai Wales and West
Sadie Cooper – Uwch Therapydd Galwedigaethol, Cyngor Caerffili
Maggie Kirby – Tenant, Grŵp Ateb
Ymunwch â ni i ddysgu, rhannu a chyfrannu at ddatblygu gweledigaeth ar gyfer tai hygyrch yng Nghymru.
Archebwch Nawr
No comments:
Post a Comment