Mae heddiw’n nodi pennod newydd i CGGC.
Mae mudiadau gwirfoddol yn newid bywydau bob dydd, ond i fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n wynebu ein cymdeithas mae angen i ni ddod at ein gilydd, trefnu ac edrych ymlaen i baratoi at y dyfodol.
Dyna pam yn CGGC mae pob un ohonom yn dod ynghyd y tu ôl i ymdeimlad newydd o bwrpas, sef galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Rydym am sicrhau ein bod ni gyd yn barod i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas. I wneud hyn mae angen mudiadau gwirfoddol nawr yn fwy nag erioed. Ond ni all neb wneud hynny ar ei ben ei hun. Mae CGGC yma fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn defnyddio’r meddylfryd newydd hwn fel galwad i’r gad, nid yn unig i ddod ag elusennau a mudiadau gwirfoddol o bob math at ei gilydd, ond hefyd i ysbrydoli byd busnes a chyrff cyhoeddus i gynnig eu cefnogaeth hwythau fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth a meithrin dyfodol gwell.
Mae hyn yn dechrau heddiw wrth i ni lansio Gwobrau Elusennau Cymru, cynllun gwobrwyo newydd a fydd yn tynnu sylw at effaith arbennig ac amrywiol mudiadau gwirfoddol, gan ddefnyddio straeon ysbrydoledig ledled Cymru i ddangos beth sy’n bosib ac ysgogi rhagor o bobl i fynd ati i wneud gwahaniaeth sut bynnag y gallant.
Mawr obeithiaf y byddwch yn ymuno â ni ac yn cefnogi pwrpas CGGC ar ei newydd wedd. Gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Diolch yn fawr, Ruth Marks Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
|
No comments:
Post a Comment