Thursday, 31 May 2018

Implementation of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales)

The Welsh Government has published three consultations relating to Phase 3 of implementation of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

The Act establishes a new system of regulation and inspection of social care that upholds the rights of Welsh citizens to dignified, safe and appropriate care and support.

We are consulting on improvements to the regulation of fostering services, adult placement services and, for the first time, of advocacy services in respect of children’s statutory advocacy.

For further details please see the webpages for each consultation:

· Fostering services
· Adult Placement services
· Advocacy services

The Minister for Children, Older People and Social Care has issued a written statement which is available at:

https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/phase3/?skip=1&lang=en

In support of these consultations we are holding information events:

· Wrexham, Wednesday 20 June 2018
· Cardiff, Thursday 19 July 2018

To attend contact RISCAct2016@gov.wales by Friday 8 June (Wrexham event) or Friday 6 July (Cardiff event). Spaces are limited and subject to availability.

The consultations close on Thursday 16 August 2018. We look forward to hearing your views

Social Services and Integration Directorate, Welsh Government



Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri ymgynghoriad yn ymwneud â Chyfnod 3 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith.

Mae'r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, perthnasol, gydag urddas.

Rydym yn ymgynghori ar welliannau i’r ffordd y rheoleiddir gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion ac, am y tro cyntaf, gwasanaethau eirioli mewn perthynas ag eiriolaeth statudol i blant.

I gael rhagor o fanylion gweler y tudalennau ar y we ar gyfer pob ymgynghoriad:

· Gwasanaethau Maethu
· Gwasanaethau Lleoli Oedolion
· Gwasanaethau Eirioli

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, sydd ar gael yn:

https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/phase3/?skip=1&lang=cy

Rydym yn trefnu sesiynau gwybodaeth i gynorthwyo’r ymgynghoriadau:

· Wrecsam, dydd Gwener 20 Mehefin 2018
· Caerdydd, dydd Iau 19 Gorffennaf 2018

Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCAct2016@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 8 Mehefin (digwyddiad Wrecsam) neu ddydd Gwener 6 Gorffennaf (digwyddiad Caerdydd). Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar argaeledd.

Mae'r ymgynghoriadau yn dod i ben ddydd Iau 16 Awst 2018. Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.

A fyddech cystal â rhannu'r neges e-bost hon yn eich sefydliad a gyda’ch rhwydweithiau.

Diolch a chofion gorau,

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

No comments:

Post a Comment