Please scroll down for English
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad o ba mor effeithiol yw'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Os ydych chi'n ofalwr a'ch bod yn cael cymorth, neu wedi gwneud cais am gymorth, gan eich Awdurdod Lleol, byddai Swyddfa Archwilio Cymru wrth ei bodd y clywed gennych chi. Os hoffech chi gymryd rhan, bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn trefnu cyfweliad 15 munud dros y ffôn i'ch holi chi am eich profiadau.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn awyddus i glywed gan sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ac yn eu cefnogi. Byddai ganddi ddiddordeb mewn clywed eich barn am ba mor effeithiol yw'r prosesau mae gwasanaethau cymdeithasol yn eu defnyddio i asesu cleientiaid a gofalwyr. Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy arolwg ar-lein a ddylai gymryd dim mwy na 20 munud i'w gwblhau.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch â Swyddfa Archwilio Cymru ar 02920 320 500 neu council.studies@audit.wales. Gallwch ddewis cymryd rhan yn yr adolygiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac ni fydd unigolion yn cael eu henwi yn yr adroddiad terfynol.
Wales Audit Office are carrying out a review of the effectiveness of social services in Wales.
If you’re a carer and receive or have requested support from your Local Authority, Wales Audit Office would love to hear from you. If you’d like to be involved, Wales Audit Office will arrange a 15-minute telephone interview to ask about your experiences.
Wales Audit Office also want to hear from third-sector organisations working with and supporting social services. They would be particularly interested to hear your thoughts on the effectiveness of client and carer assessment processes used by social services. Information will be collected through an on-line survey which should take no longer than 20 minutes to complete.
For more information and to get involved, please contact Wales Audit Office on 02920 320 500 or at council.studies@audit.wales. You can choose to participate in the review in either English or Welsh. All information collected will be held in the strictest confidence and no individuals will be named in the final report.
No comments:
Post a Comment