Y Cyngor yn lansio man cyswllt newydd ar gyfer gofal cymdeithasol a chymorth i oedolion
Bydd rhif ffôn newydd ar gyfer oedolion sydd angen cymorth neu gyngor ar ofal cymdeithasol yn mynd yn fyw ar 25 Mawrth 2019.
Bydd oedolion ym Mhowys yn gallu cysylltu â’r cyngor trwy ffonio CYMORTH ar 0345 602 7050. Mae tîm CYMORTH yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o gymorth i bobl ym Mhowys dros ddeunaw oed.
Byddwch yn gallu cael hyd i wybodaeth am wasanaethau i bobl hŷn, nam ar y synhwyrau, anableddau dysgu neu gorfforol, lles, a diogelu oedolion. Ar ben hyn gall y gwasanaeth gynnig gwybodaeth a chysylltiadau i frocer trydydd sector/Cysylltwr Cymunedol ar gyfer gwasanaethau’r sector gwirfoddol.
Mae tîm CYMORTH yn cynnwys staff o gefndiroedd proffesiynol gwahanol gyda gwybodaeth leol arbenigol am y gefnogaeth les a gofal cymdeithasol sydd ar gael i chi.
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hayes, Aelod Cabinet ar faterion gofal Cymdeithasol Oedolion: “Rydym wedi cyfuno cyngor proffesiynol ac arweiniad ar les a gwaith gofal cymdeithasol yn un lle.
“Pan rydych yn ffonio CYMORTH byddwch yn siarad â swyddog cyswllt profiadol a fydd yn cymryd manylion eich ymholiad ac yn eich cyfeirio at y gefnogaeth iawn i’ch cynorthwyo heb oedi. Os bydd angen, bydd y tîm CYMORTH yn gallu’ch cyfeirio’n gyflym at yr unigolyn fydd yn gallu’ch helpu orau.
“Trwy roi’r wybodaeth gywir i oedolion ym Mhowys mewn un lle gallwn gynnig gwasanaeth cyflym ac ymatebol. Bydd yn rhoi’r cyngor iawn i chi ar yr adeg iawn.”
Os ydych yn meddwl bod angen help arnoch gan wasanaethau cymdeithasol gallwch gysylltu â CYMORTH ar 0345 602 7050 i gael cyngor neu asesiad gofal cymdeithasol. Hefyd gallwch drafod unrhyw ddigwyddiad diogelu trwy siarad â swyddog cyswllt yn uniongyrchol. Fel arall gallwch ddefnyddio e-bost diogel yn eich dewis iaith.
New single point of contact for adult social care and support
A new telephone number for adults who require support or advice about social care will go live on March 25, 2019.
Adults in Powys will be able to contact the council by calling ASSIST on 0345 602 7050. The ASSIST team provide information and advice on a wide range of support for people in Powys who are aged 18 or over.
You will be able to access information for older people services, sensory impairment, learning or physical disability, and wellbeing, as well as adult safeguarding. In addition, information and connection can be provided to a third sector broker/Community Connector for voluntary sector services.
The ASSIST team is made up of staff from different professional backgrounds with specialist local knowledge about the wellbeing, and social care support available to you.
Councillor Stephen Hayes, Cabinet Member for Adult Social care said: “We’ve brought together professional advice and guidance around wellbeing and social care work into one place.
“When calling ASSIST, you will speak to an experienced contact officer who will take details of your enquiry and provide access to the right support that will assist you without delay. If required, the ASSIST team will be able to quickly divert your call to the person best able to help you.
“Providing adults in Powys with the right information in one place will enable a fast and responsive service to the right advice at the right time.”
If you think that you may need help from the social services, contact ASSIST on 0345 602 7050 for advice, a social care assessment or any safeguarding incident by speaking to a contact officer directly, or, by secure email in the language of your choice.