Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol
Abertawe wedi lansio diweddariad ar ei ap Gofalu Trwy’r Gymraeg. Mae’r ap, sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal i ddefnyddio’r
Gymraeg wrth eu gwaith, wedi bod mor llwyddiannus nes bod fersiwn newydd,
llawnach wedi’i greu, diolch i nawdd pellach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Lansiwyd y teclyn dysgu arloesol yn
2011, ac ers hynny mae’r ap, a ddatblygwyd gan gwmni Galactig, wedi cael
ei lawrlwytho dros 10,000 o weithiau. Mae’r ap ar gael i bawb yn rhad ac am
ddim oddi ar App Store a Google Play.
Gwobrwywyd arloesedd yr ap yng
ngwobrau ‘Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol’
Llywodraeth Cymru yn 2014.
Roedd y fersiwn wreiddiol o Gofalu
Trwy’r Gymraeg yn cynnwys geiriau, termau ac ymadroddion defnyddiol ym maes
iechyd a gofal, er mwyn cynorthwyo a galluogi unigolion sy’n gweithio yn y maes
i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chleifion, a thrwy hynny sicrhau bod modd i’r
cleifion hynny drafod eu hanhwylderau trwy gyfrwng eu mamiaith.
Erbyn hyn, mae’r ap wedi’i ehangu’n
sylweddol yn ôl Lynsey Thomas o Academi Hywel Teifi sydd wedi arwain ar y
gwaith o ddatblygu’r ap:
“Mae’r diweddariad hwn yn gyfle i sicrhau profiadau dysgu gwell
i’r defnyddwyr. Adeiladwyd yr ap gwreiddiol bron i bum mlynedd yn ôl, felly mae hwn yn gyfle i ni adnewyddu’r ap â gwedd gyfoes a modern.
“Mae adrannau ychwanegol o
derminoleg ac ymadroddion sy’n benodol ar gyfer meddygon, ymwelwyr iechyd,
gweithwyr gofal a ffisiotherapyddion wedi’u creu, gyda’r ynganiadau’n cael
eu llefaru unwaith eto gan Nia Parry, y tiwtor iaith a’r gyflwynwraig deledu,
sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe.
“Ymhlith y datblygiadau newydd
eraill mae cyfarwyddyd i weithwyr ar gynnal sgyrsiau anffurfiol ar bynciau fel
y tywydd, er mwyn tawelu meddyliau eu cleifion. Hefyd, mae gallu gan yr ap i
anfon hysbysiadau ymwthiol i ffonau defnyddwyr, er enghraifft Ymadrodd y Dydd,
a’r gobaith yw bydd hyn yn procio ac yn annog defnyddwyr i ddal ati i
ddefnyddio’r ap a’u Cymraeg”.
Meddai Dr Dafydd Trystan,
cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r Coleg yn falch iawn o
gefnogi adnodd sydd wedi profi i fod mor werthfawr a phoblogaidd ymysg
gweithwyr iechyd a gofal yma yng Nghymru.
“Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r
blaen yn astudio rhan o’u cyrsiau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg ym
mhrifysgolion Cymru, ond mae angen gwneud mwy i ddenu myfyrwyr i’r maes iechyd
a hyderaf y bydd yr ap yma yn un adnodd a allai fod o fudd mawr iddynt wrth
hyfforddi”.
No comments:
Post a Comment