Friday 10 May 2019

‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’ - Byw Nawr (Dying Matters) 13-19 mis Mai 2019


Y thema ar gyfer yr ymgyrch Byw Nawr / Dying Matters eleni yw ‘Ydyn ni'n Barod’, ac mae'n edrych ar y camau ymarferol ac emosiynol y mae angen i bob un ohonom eu cymryd i fod yn barod ar gyfer diwedd ein bywydau. Mae arolygon barn yn dangos mai dim ond tua thraean o bobl sydd wedi ysgrifennu ewyllys neu feddwl am eu hangladd, ac mae hyd yn oed llai wedi meddwl am eu gofal diwedd oes, neu wedi gwneud penderfyniad ynghylch rhoi organau.


I fynd i'r afael â hyn, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn defnyddio wythnos Byw Nawr i lansio ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’, dogfen a luniwyd i roi cyfle i bobl archwilio a myn
egi eu dymuniadau am eu gofal yn y dyfodol.  Mae pobl sy'n ystyried Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw yn aml yn cael gwell ansawdd bywyd ac yn fwy tebygol o farw yn y man o'u dewis.  Gall cynllunio ymlaen llaw hefyd wneud bywyd yn llawer haws i anwyliaid sy'n galaru.

Mae’r ddogfen ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’ wedi'i llunio i fod yn hawdd i'w llenwi ac o fewn cyrraedd pawb, beth bynnag yw eich oedran neu gyflwr eich iechyd.  Mae hanner cant o ‘Hwyluswyr Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw' o bob cwr o Bowys, o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac o gartrefi gofal, cartrefi nyrsio, cefnogwyr Gofalwyr CREDU ac eraill wedi derbyn hyfforddiant i gynnig help gyda'r broses.  Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Powys yn ystod wythnos ‘Byw Nawr’ i lansio'r ddogfen a fydd ar gael gan hwyluswyr Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw a hefyd drwy'r wefan.

Bydd Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn lansio'r ddogfen yn swyddogol rhwng 10-12 ddydd Llun 13 Mai 2019 yn yr MRC yn Llandrindod.

Dywedodd Rhiannon: “Rwy’n falch dros ben bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn lansio ‘Fy Mywydi, Fy Nymuniadau’ i’n helpu ni gyd i gael y sgyrsiau pwysig hyn.  Mae Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw wedi dangos ei fod yn gwella canlyniadau ar gyfer cleifion a’u teuluoedd.  Bydd y ddogfen hon yn helpu ein staff i ddarparu gofal sydd wedi’i ganolbwyntio ar yr unigolyn ar draws holl gymunedau Powys.”

Llenwodd Kim Bailey, o Ffordun ger y Trallwng, y ddogfen yn ystod y cyfnod prawf.  Dywedodd Kim: “Gwnes i weld y broses o lenwi ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’, yn ddefnyddiol iawn, gan ei bod yn anodd mynd i'r afael â rhai pynciau ac roedd yn syml ac yn hawdd ei defnyddio. Helpodd y ddogfen i mi roi popeth yn ei le ac i siarad â fy nheulu.  Mae'r ddogfen ar gael i unrhyw un sydd ei hangen.”

Dywedodd y Nyrs Staff Emily Blizard o Ward Graham Davies yn Ysbyty Llanidloes: “Rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun pa mor ddefnyddiol yw hi i deuluoedd os yw eich  anwyliaid yn glir am eu dymuniadau.  Ar adeg o ansicrwydd a straen mawr mae'n grymuso teuluoedd i wybod eich bod yn eu cefnogi i gyflawni eu dymuniadau. Fel nyrs staff rwy'n credu y bydd y ddogfen hon yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o deuluoedd drwy osgoi rhywfaint o ofid ar ddiwedd oes.”

Dywedodd y Nyrs Gymunedol Tamsyn Cowden o Nyrsys Ardal Llanfair-ym-Muallt: “Rwy'n credu y bydd ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’ yn cael effaith gadarnhaol ar fy nghleifion trwy ein helpu ni i gael sgyrsiau gonest yn gynt.  Mae angen i bob un ohonom feddwl am ein dymuniadau am ein gofal yn y dyfodol, ac i siarad amdanynt fel nad ydym bob amser yn gwneud penderfyniadau mewn argyfwng.  Er mwyn darparu gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae angen i ni ddeall beth sydd bwysicaf i'n cleifion, a bydd ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’ yn ein helpu i wneud hynny.”

Dywedodd Faith Gupta, Rheolwr Tŷ Morgannwg House, yn Aberhonddu: “Rwy’n gefnogol iawn o gyflwyno ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’.  Bydd y ddogfen hon yn help mawr i'm trigolion a'u teuluoedd.  Rydym wedi helpu i brofi'r ddogfen hon ac mae'r ymateb gan staff a theuluoedd wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol.”’

Dywedodd Charity Garnett, Nyrs Gofal Lliniarol Cymunedol sydd wedi'i lleoli yn y Drenewydd ac sydd wedi bod yn rhan o lunio'r ddogfen: “Mae datblygu ‘Fy Mywyd, Fy Nymuniadau’ mewn partneriaeth â'r gymuned a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Bowys a Chymru wedi bod yn gyfle gwych. Rwy’n gobeithio y bydd y ddogfen hon yn grymuso llawer o bobl i gael y sgyrsiau pwysig hyn gyda'u hanwyliaid a chyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.  Nid yw hi byth yn hawdd wynebu diwedd ein bywydau, ond rydym yn gobeithio y bydd y ddogfen hon yn ein helpu i fod yn fwy agored am ein dymuniadau a'n pryderon, ac yn ei droi bydd yn ei gwneud yn haws i gefnogi ein gilydd.”

No comments:

Post a Comment