Thursday 2 May 2019

Model Cymdeithasol o Anabledd yng Nghymru - Ymunwch â'r Sgwrs / Social Model of Disability in Wales - Join the Conversation

Model Cymdeithasol o Anabledd yng Nghymru - Ymunwch â'r Sgwrs

Cyhoeddwyd fframwaith newydd Llywodraeth Cymru ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’ ar gyfer ymgynghoriad ar 22 Hydref 2018 a daeth i ben ar 18 Ionawr 2019.  Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd gyda'r bwriad o gyhoeddi'r fersiwn derfynol yn haf 2019.  Ategir y fframwaith gan y Model Cymdeithasol o Anabledd ac mae'n cynnwys ymrwymiad i gynyddu dealltwriaeth o'r Model Cymdeithasol ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt; a sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu'n eang yn ein polisïau a'n rhaglenni.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, yn cynnal 3 gweithdy hanner diwrnod ledled Cymru i ymgysylltu â phobl yn y sgwrs Model Cymdeithasol.  Bydd y gweithdai yn cynnwys trafodaethau ar y canlynol:

·         Ble y daw'r Model Cymdeithasol a pham mae'n bwysig?
·         Sut mae'r Model Cymdeithasol yn grymuso pobl anabl?
·         Sut mae'r Model Cymdeithasol yn edrych mewn ymarfer?
·         Enghreifftiau llwyddiannus o ddefnyddio’r Model Cymdeithasol.
·         Beth yw'r heriau a'r rhwystrau sy'n atal gweithredu pellach?
·         Sut allwn ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y Model Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu yn fwy eang.

Dyddiadau a lleoliadau:

14 Mai 2019: Canolfan Adnodd Cyfryngau, Heol Rhydychen, Llandrindod, LD1 6AH
29 Mai 2019: Future Inn, Heol Hemingway, Caerdydd, CF10 4AU
30 Mai 2019: Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW

I gofrestru eich diddordeb, ymatebwch i'r Eryl.Loring@gov.wales  hwn gan nodi'r digwyddiad o'ch dewis, gan ddarparu manylion cyswllt ac unrhyw ofynion mynediad neu gyfathrebu sydd gennych.



The Welsh Government's new framework ‘Action on Disability: The Right to Independent Living’ was issued for consultation on the 22 October 2018 and closed on the 18 January 2019.  Consultation responses are currently being analysed with a view to publishing the final version in summer 2019. The framework is underpinned by the Social Model of Disability and contains a commitment to increase understanding of the Social Model across Welsh Government and beyond; and to ensure it is reflected widely in our policies and programmes.

Following on from the consultation, Welsh Government, in partnership with Disability Wales, are running 3 half-day workshops across Wales to engage people in the Social Model conversation.  The workshops will include discussions on the following:

·         Where does the Social Model come from and why is it important?
·         How does the Social Model empower disabled people?
·         What does the Social Model look like in practice?
·         Examples of where the Social Model has been used successfully.
·         What are the challenges and barriers preventing further implementation?
·         How can we work together to ensure the Social Model is reflected more widely in society?

Event dates and venues:

14 May 2019: Media Resource Centre, Oxford Road, Llandrindod Wells, LD1 6AH
29 May 2019: Future Inn, Hemingway Road, Cardiff, CF10 4AU
30 May 2019: Catrin Finch Centre, Mold Road, Glyndwr University, Wrexham, LL11 2AW

To register your interest, please respond to Eryl.Loring@gov.wales  indicating the event of your choice, providing delegate contact details and any specific access or communication requirements you may have.

No comments:

Post a Comment