Rhaglen yng
ngogledd Powys yw'r ddiweddaraf i gael £2.554m o gyllid o Gronfa Trawsnewid
£100m Llywodraeth Cymru i gefnogi ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd
a gofal cymdeithasol.
Dywedodd yr
Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i
helpu'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd a
darparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Os yw'n llwyddiannus, gellir ei gyflwyno
ledled Cymru.
Crëwyd y Gronfa i
gefnogi'r gwaith o helpu i gyflwyno modelau newydd ar raddfa ehangach er mwyn
darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor, a hynny fel rhan o
gynllun Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru
ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r cyllid ar gyfer rhaglen Llesiant Gogledd Powys, a fydd yn helpu
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys i weithio gyda chymunedau lleol a
sefydliadau partner i ddatblygu ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau yn nes at
adref.
Y rhaglen hon fydd
y rhaglen iechyd a llesiant fwyaf erioed ym Mhowys sy'n pontio'r cenedlaethau,
gan roi cyfle i gymunedau lleol gydweithio gydag iechyd, gofal cymdeithasol,
addysg, tai, hamdden, y trydydd sector a phartneriaid ehangach.
Dywedodd Mr
Gething: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai'r prosiect yng ngogledd Powys
yw'r diweddaraf i gael cefnogaeth Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru. Bydd ein
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau uwch a mwy cymhleth
yn y dyfodol wrth i'r boblogaeth heneiddio. Mae angen i ni ddatblygu ffyrdd
newydd, radicalaidd o ddarparu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol os ydym
am ddiwallu'r galw yn y dyfodol.
Bydd yn rhaid
mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan ddod â gwahanol wasanaethau at ei
gilydd, i ddarparu gwasanaethau yn nes at y cartref a lleihau'r pwysau ar
ysbytai. Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol, Cymru Iachach yn nodi sut y gallwn gyflawni hyn.
Bydd ein Cronfa Trawsnewid £100m yn ein helpu i wireddu'n gweledigaeth drwy
ariannu prosiectau arloesol sydd â'r potensial i gael eu cyflwyno a'u defnyddio
ledled Cymru gyfan.”
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys,
"Dyma gyfle a ddaw ond unwaith mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant
yng ngogledd Powys. Gyda'i gilydd, mae ein cyngor a'n bwrdd iechyd eisoes yn
arwain y ffordd yng Nghymru fel y rhanbarth cyntaf gyda strategaeth iechyd a
gofal ar y cyd a gytunwyd yn 2018, yn seiliedig ar y pethau y mae pobl Powys
wedi dweud sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein
helpu i sicrhau ein bod yn cymryd camau ymarferol i wireddu hyn."
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a
Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: "Mae'r rhaglen hon yn
ymwneud yn bennaf oll â sicrhau'r cyfleoedd gorau ar gyfer iechyd a gofal yng
ngogledd Powys. Ond, yn ganolog i gyflawni hyn mae datblygu cyfleuster newydd,
modern, yn ardal y Drenewydd i gynnig rhagor o wasanaethau yn lleol, a dod â'r
dechnoleg a hyfforddiant diweddaraf i'r canolbarth. Bydd wedi'i leoli yng
nghanol y dref, ac mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn yn awr
ddechrau sgwrs fawr gyda'r preswylwyr, staff a sefydliadau partner i gytuno ar
y gwasanaethau y bydd yn eu cynnig a sut y bydd yn cysylltu â chyfleusterau
iechyd a gofal yng Ngogledd Powys. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda
chymunedau lleol i ddatblygu a gweithredu'r ffordd newydd hon o
gydweithio"
No comments:
Post a Comment