Mae
Mesur y Mynydd (MyM) wedi derbyn dros £140,000 pellach gan Lywodraeth Cymru i
ariannu ail gam ei waith arloesol sy'n deall profiadau pobl o ofal cymdeithasol
yng Nghymru. Gan adeiladu ar lwyddiant ei waith yn 2018/19, bydd y prosiect yn
parhau i ymgysylltu â chymunedau ledled y wlad, gan ddefnyddio ei ddulliau
arloesol i roi Cymry yng nghanol y ddadl ar ddatblygu'r sector gofal
cymdeithasol. Wedi'i leoli ym Mhrifysgol De Cymru, Dr Rachel Iredale, Athro
Cyswllt Ymgysylltu â'r Cyhoedd yw'r Prif Ymchwilydd, sy'n arwain ar ail gam
MtM.
Y
mis hwn, cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie
Morgan, ar gyllid pellach, a fydd yn ariannu 18 mis o weithgarwch gan MtM, gan
alluogi'r prosiect i gasglu mwy o straeon yn ymwneud â gofal cymdeithasol, ac i
gynnal Rheithgor Dinasyddion. Y Rheithgor, dull o ymgysylltu â phobl mewn
trafodaethau polisi cymhleth fydd yr ail a gynhelir gan y prosiect a bydd yn
galluogi aelodau'r cyhoedd i archwilio, yn fanwl, fater craidd sy'n ymwneud â'r
hyn sydd wir yn bwysig mewn gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Mae
Mesur y Mynydd yn darparu gwybodaeth hanfodol i ddysgu mwy am brofiadau pobl o
ofal cymdeithasol. Mae gofalwyr, a'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth, yn
cyfrannu cymaint at gymunedau, teuluoedd a bywoliaethau; mae eu lleisiau yn
hanfodol. Mae angen i ofal cymdeithasol weithredu'n dda lle mae bwysicaf, ym
mywydau pobl ledled Cymru.”
Amlygodd
blwyddyn gyntaf y prosiect gymhlethdod gofal cymdeithasol a'r effaith a gaiff
ar fywydau pobl. Nodedig oedd profiadau gofalwyr ac yn 2019, mae MyM yn awyddus
i glywed ymhellach gan ofalwyr o bob cwr o Gymru. Bydd gwaith y prosiect yn
2019, tra'n parhau i edrych ar ofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, hefyd yn
canolbwyntio'n agosach ar bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd
ethnig, yn ogystal â phrofiadau pobl iau.
Dywedodd
Annie Galt, gofalwr ac un o'r Rheithwyr yn Rheithgor Dinasyddion cyntaf MyM:
“Rwy'n hapus iawn i fod yn gysylltiedig â MyM, mae prosiectau fel
hyn mor bwysig oherwydd eu bod yn helpu pobl i leisio eu barn a, gobeithio,
cyfrannu at wella profiadau pobl yn y dyfodol. Mae bod yn ofalwr yn anodd ac
rwy'n hapus bod Llywodraeth Cymru eisiau gwybod mwy am brofiadau fel fy un i.”
Mae
MyM wrthi'n chwilio am sefydliadau newydd i ymuno â'u Grŵp Llywio, ewch i'r
wefan i gael gwybod mwy - www.mtm.wales / www.mym.cymru
No comments:
Post a Comment