Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi bod yn cydweithio i ddatblygu Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal. Yn cydweithio gydag ein partneriaid, y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, Prifysgol Oxford Brookes (IPC), rydym yn dechrau ar gyfnod ymgynghori'r strategaeth ddrafft.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cyfres o weithdai, gweminarau ac arolwg ar-lein rhwng Gorffennaf ac Awst.
Mae'r gweithdai yn ½ diwrnod – 9.30 – 12.30 a’u cynnal ar y dyddiadau canlynol
Gogledd Cymru
5 Gorffennaf 2019 Optic Centre, Glyndwr University, St Asaph, LL17 0JD http://conferencevenues.glyndwr.ac.uk/StAsaph
Gorllewin Cymru
8 Gorffennaf 2019 Principality House (Paxton Room), National Botanic Garden of Wales, Llanarthne, Carmarthenshire SA32 8HN https://botanicgarden.wales/garden-areas/principality-house/
De Cymru
9 Gorffennaf 2019 Orbit Business Centre, Rhydycar Business Park, Merthyr Tydfil, CF48 1DL https://www.orbitbusinesscentre.co.uk/en/facilities/
Mae'r gynulleidfa darged ar gyfer y gweithdai fel a ganlyn:
- Rheolwyr ar bob lefel ar draws iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys darparwyr gwasanaethau statudol, gwirfoddol a phreifat, gan gynnwys Penaethiaid Gwasanaeth,
- Rheolwyr Gwasanaeth, Rheolwyr Gweithlu, Unigolion Cyfrifol, Rheolwyr Cofrestredig, Rheolwyr Adnoddau Dynol, ac ati.
- Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
- Rhwydweithiau gofalwyr a phaneli dinasyddion
- Darparwyr addysg o bob darparwr Addysg Uwch, Addysg Bellach a darparwyr Dysgu Seiliedig yn ar Waith
- Cynghorau Gwirfoddol Sirol
- Undebau
- Rhwydweithiau sgiliau rhanbarthol
Os na allwch fynychu un o'r gweithdai ond fod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith hwn, bydd cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad ar y we ar 23 Gorfennaf 2019 am 10.00am neu 2.00pm neu 26 Gorfennaf 2019 am 10.00am neu 2.00pm. Bydd y wefan yn oddeutu awr o hyd a bydd yn ymdrin â'r un pynciau â'r gweithdai a bydd cyfle i chi roi eich mewnbwn a'ch barn.
Mae'r dolenni canlynol yn rhoi manylion ar amseroedd, yn ogystal ag arweiniad ar y ffordd orau o gael mynediad i'r y gwe-gynhadleddau:
Bydd wybodaeth bellach ynglŷn â’r arolwg ar-lein yn cael ei gyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg Iechyd a Gwelliant
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiadau, anfonwch e-bost at qedwards@brookes.ac.uk. Am unrhyw gwestiynau eraill cysylltwch â clem.price@wales.nhs.uk neu jon.day@gofalcymdeithasol. cymru yn y lle cyntaf.
No comments:
Post a Comment