Thursday 20 June 2019

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – 31 Gorffennaf, 2019



Mae’n bleser gennyf eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Cynhelir ein CCB rhwng 1.30yp a 3.30yp ar 31 Gorffennaf 2019 yn Hafod a Hendre, Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair-ym-Muallt.

Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i rannu rhai o lwyddiannau a heriau'r flwyddyn sydd wedi mynd, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn fwy pwysig, bydd yn rhoi cyfle i ni glywed gennych am eich dyheadau ar gyfer dyfodol iechyd a lles ym Mhowys.

Bydd marchnad ryngweithiol hefyd gyda chydweithwyr o BIAP a sefydliadau partner. Bydd hyn ar agor ar ôl cyrraedd o 1yp-1.30yp, ac yn dilyn y cyfarfod o 3.30yp-4yp. Bydd te a choffi ar gael hefyd.

Rhowch wybod i ni os gallwch chi ymuno â ni drwy gysylltu ag Ysgrifenyddes y Bwrdd arpowys.geninfo@wales.nhs.uk neu 01874 712709

Bydd copïau electronig o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2018/19, Datganiad Ansawdd Blynyddol 2018/19 a Chynllun Blynyddol 2019/20 ar gael cyn y cyfarfod arwww.biapowys.cymru.nhs.uk

Os hoffech ofyn am gopi printiedig i'w gasglu yn y cyfarfod neu i'w anfon cyn y cyfarfod, cysylltwch ag Ysgrifenyddes y Bwrdd (gweler uchod).

Darperir cyfieithu ar y pryd yn yr iaith Gymraeg yn y digwyddiad ynghyd â dolen sain clyw, ac mae mynediad cadair olwyn i'r lleoliad. Os oes gennych ofynion mynediad penodol eraill, cysylltwch â ni (gweler uchod).

No comments:

Post a Comment