Does dim "bwled arian" wrth ennyn diddordeb y cyhoedd, ond mae yna gamau ymarferol y gellir eu cymryd i leihau neu ddymchwel unrhyw rwystrau. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ffyrdd gwahanol o gyrraedd rhanddeiliaid a all fod yn anodd cysylltu â nhw.
Mae'r cwrs yn dechrau drwy grynhoi cerrig milltir allweddol ym maes polisi sy'n diffinio cyd-destun unigryw Cymru ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae'n ystyried pwy all fod eisiau ennyn diddordeb y cyhoedd a pham.
Byddwch yn defnyddio techneg gyfranogol i "ddadansoddi rhanddeiliaid" er mwyn canfod y mudiadau a'r grwpiau anffurfiol i'w cynnwys yn eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd, sut mae angen i chi ddwyn perthynas â nhw, pa rai ohonynt sy'n flaenoriaethau o ran ennyn eu diddordeb, a pha rai a all fod yn anodd cysylltu â nhw.
Mae rhan olaf y modiwl hwn yn cyflwyno trosolwg byr o'r broses ymgynghori ac yn cyfeirio at wahanol fodelau ymgysylltu (ymdrinnir yn fanylach â'r rhain ym modiwl 4).
|
No comments:
Post a Comment