Friday 22 February 2019

Cyngor Iechyd Cymuned Powys Rydym yn chwilio am aelodau!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi barn cleifion wrth galon gwella gwasanaethau iechyd cenedl? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o bob cefndir - i'n helpu i adlewyrchu dyheadau ac anghenion poblogaeth Cymru gyfan i ddatblygu'r GIC yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae aelodau Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yn wirfoddolwyr lleol sydd yn gweithredu fel llygad a chlust cleifion a'r cyhoedd, gan wrando ar eu pryderon a gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion. Mae gofal i gleifion wrth galon y GIC, a'r CICau ydy llais annibynnol cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru.

Gofynnir i aelodau neilltuo rhwng tri a phump diwrnod y mis ac fe gaiff unrhyw gostau 'allan o boced' eu had-dalu.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch Sue Newham:   01597 822191
📧 sue.newham@pavo.org.uk 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 28ain o Chwefror 2019

No comments:

Post a Comment