Tuesday 26 February 2019

Sicrhau Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Meddygon Teulu Diogel a Chynaliadwy yng Ngogless Orllewin Powys

Mae Iechyd Bro Ddyfi, sy’n darparu Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Meddygon Teulu i ryw 7,000 o bobl yng ngogledd orllewin Powys a’r cyffiniau, yn wynebu nifer o heriau wrth gynnal gwasanaethau lleol ar eu ffurf bresennol. Maen nhw wedi cyflwyno cais ffurfiol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am gyfuno’u holl wasanaethau ar eu safle yn Forge Road, Machynlleth a chau eu safle yng Nglantwymyn erbyn mis Mehefin 2019.

Er mwyn ein helpu i ystyried y cais o'r practis a gwneud penderfyniadau ar ddyfodol gwasanaethau lleol, rydym yn cynnal ymgynghoriad â chleifion Iechyd Bro Ddyfi a'r cymunedau ehangach o gwmpas Cemmaes Road a Machynlleth.

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 11 Chwefror a 28 Mawrth 2019.

Erbyn hyn, gallwn gadarnhau rhaglen o gyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio lle gall cleifion a thrigolion lleol siarad â'r bwrdd iechyd ac aelodau eraill o'r gymuned am yr ymgynghoriad hon:

Digwyddiad Galw Heibio: Y Llew Coch, Dinas Mawddwy, Dydd Mercher 6 Mawrth, 1430-1900

Digwyddiad Galw Heibio: Canolfan Gymunedol Llanbrynmair , Dydd Gwener 8 Mawrth, 1430-1900

Digwyddiad Galw Heibio: Y Plas Machynlleth, Dydd Llun 18 Mawrth, 1200-1600

Cyfarfod Cyhoeddus: Y Plas Machynlleth, Dydd Llun 18 Mawrth, 1830-2000

Digwyddiad Galw Heibio: Canolfan Gymunedol Glantwymyn, Dydd Mercher 20 Mawrth, 1200-1600

Cyfarfod Cyhoeddus: Canolfan Gymunedol Glantwymyn, Dydd Mercher 20 Mawrth, 1830-2000

Mae copïau digidol o'n posteri ynghlwm a byddem yn ddiolchgar am eich help wrth roi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiadau hyn yn eich cymunedau. Mae fersiwn “hawdd ei ddarllen” o’r dogfen ymgynghori ynghlwm hefyd.

Mae gwybodaeth am y digwyddiadau hyn hefyd yn cael ei rannu trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn y cyfryngau lleol.

Bydd pob barn rydym yn derbyn yn cyfrannu at adroddiad a fydd yn hysbysu argymhelliad ar y ffordd ymlaen, a gaiff ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ddiweddarach y gwanwyn hwn.

Am fwy o wybodaeth ewch iwww.biapowys.cymru.nhs.uk/iechyd-bro-ddyfi

No comments:

Post a Comment